“ Rwy’n gobeithio creu delweddau sy’n ysbrydoli pobl i fynd tu allan, i weld yr harddwch sydd o’n cwmpas ym mhob ennyd, ac i deimlo’r cysylltiad hwnnw â’r byd a’r teimlad o berthyn iddo. I sylweddoli dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain, a dydyn ni ddim ar wahân i fyd natur, ein bod yn rhan o ffabric y byd, edafedd sydd wedi ei gydblethu â gwe bywyd.” (Karel Jasper)

“Roeddwn i’n teimlo bod meddylgarwch ffurfiol wedi rhoi dulliau i mi ac mae byd natur wedi rhoi gofod i mi ffynnu gyda chwilfrydedd ystyriol.“

“Rwyf wedi datblygu ymarfer creadigol sydd â’i wreiddiau mewn llonyddwch a cherdded yn araf fel modd i fod ynghlwm â’r ddaear a’r hyn sydd yn fwy -na- dynol. Yn ystod y chwe mis diwethaf, trwy ailgyflawni a defod, rwyf wedi teithio’n rheolaidd ar hyd yr un llwybr cyfarwydd trwy ddyffryn coediog wrth ymyl fy nghartref. Mae fy lluniau yn arlliw o funudau wedi ‘u rhannu rhwng fy nghorff, y camera, y tir a’r golau.”

Wrth gario dim ond fy nghamera, rwy’n rhydd i symud o gwmpas yn reddfol, gan arbrofi gyda golau dydd ble bynnag y bo, ac i ddarganfod yr harddwch a’r ffurfiannau cynhenid yn yr hyn sy’n gyffredin yn ein byd ac sy’n cael ei anwybyddu. Pan rwy’n gweithio o deimlad mwy greddfol, mae’r golau a’r tirwedd yn fy ngwahodd i dynnu’r lluniau ac yn fy arwain atyn

kareljasper3@gmail.com

kareljasper.com

Skip to content