“Mae fy ymarfer meddylgarwch wedi cael dylanwad mawr arnaf o ran y ffordd rwy’n gweld bywyd ac yn gweld pobl. Mae wedi bod o gymorth i mi ddeall bod profiadau bywyd a’r pobl rydyn ni’n eu cyfarfod, yn aml yn dod i mewn i’n bywydau ni fel athrawon. Gall sefyllfaoedd anodd, hyd yn oed, ein cynorthwyo ni i fod yn gryfach, i ddysgu rhywbeth newydd amdanom ni’n hunain ac i fod yn fwy ystyriol.”
Pan ddaeth Svetlana i Lansawel yn 2004 nid oedd yn adnabod neb, ond cafodd gymaint o gefnogeth gan ei chymuned leol iddi deimlo ei bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Gyda ‘i chefndir ym maes gweithgareddau crefft yr ateb amlwg oedd cynnig dosbarthiadau rhad o niferoedd isel a gweithdai mewn ffeltio-gwlyb traddodiadol â llaw, gan addysgu pobl ‘sut i greu pethau tlws a fyddai’n eu gwneud yn hapus’, ond sylweddolodd bod angen rhagor ar nifer o’r bobl oedd yn dod.
Yn 2022 sefydlodd Svetlana ꞌclwb gwlân a sidanꞌ i bobl leol nad oeddent yn gallu fforddio talu am ddosbarthiadau. Yn ogystal â bod yn fan i drawsffurfio gwlân i ffelt, yn fuan iawn daeth yn fan drawsnewidiol ar lefel ddyfnach o lawer. Meddai Svetlana, ꞌRoeddwn i’n arfer meddwl mai addysgu oedd fy nyletswydd i, rhoi gwybodaeth am y ffordd o wneud pethau. Ond mae hynny wedi newid. Fy nyletswydd yma yw gwneud pobl yn hapus, dod o hyd i ffrindiau, cael eu hysbrydoli a chael thawelwch meddwl. ꞌ
Roedd gan Svetlana sylfaen gref o ymwybyddiaeth corfforol ac o lesiant gan iddi ymarfer meddylgarwch a symud yn ystyriol yn ystod ei phlentyndod yn Wcráin. Roedd yn dyst i wella aelodau o’i theulu a’i ffrindiau trwy nifer o ddulliau, ac roedd ei gwaith anadlu ei hun a’i hymarfer symud yn ystyriol yn gefn iddi trwy nifer o gyfnodau anodd.
“Trwy feddylgarwch rwyf hefyd wedi gallu datblygu perthynas fwy caredig gyda mi fy hun. Yn y gorffennol roeddwn yn hunanfeirniadol iawn, hyd yn oed am bethau bach fel lluniau ohonof fy hun. Roedd rhywbeth o’i le bob tro – rhy denau, rhy dew, ddim yn ddigon da. Gydag amser rwyf wedi dysgu ymfodloni ac ystyried fy hun gyda mwy o garedigrwydd a dealltwriaeth. Rwy’n aml yn rhannu’r ymagwedd hon gydag eraill yn fy ngweithdai. Er enghraifft, pan rydyn ni’n tynnu lluniau, rwy’n gwahodd pobl i ystyried nhw eu hunain gyda charedigrwydd yn hytrach na beirniadu. Mae’n dod yn ymarfer bach ond pwerus mewn hunan-dderbyn.”

“Trwy feddylgarwch rwyf hefyd wedi gallu datblygu perthynas fwy caredig gyda mi fy hun. Yn y gorffennol roeddwn yn hunanfeirniadol iawn, hyd yn oed am bethau bach fel lluniau ohonof fy hun. Roedd rhywbeth o’i le bob tro – rhy denau, rhy dew, ddim yn ddigon da. Gydag amser rwyf wedi dysgu ymfodloni ac ystyried fy hun gyda mwy o garedigrwydd a dealltwriaeth. Rwy’n aml yn rhannu’r ymagwedd hon gydag eraill yn fy ngweithdai. Er enghraifft, pan rydyn ni’n tynnu lluniau, rwy’n gwahodd pobl i ystyried nhw eu hunain gyda charedigrwydd yn hytrach na beirniadu. Mae’n dod yn ymarfer bach ond pwerus mewn hunan-dderbyn.”
Mae Svetlana yn annog defnyddio delweddu a gwaith anadlu yn ogystal â chanolbwyntio ar synhwyrau lliw a chyffwrdd wrth i gyfranogwyr weld a theimlo’r gwlân crai yn cael ei drawsnewid i gelf. Mae ymlacio a gwella yn dod o gyfuniad o gael dwylo mewn dŵr, symud y corff ac archwilio dysgeidiaeth ystyriol. Mae pobl yn cael eu rhyddhau o feddyliau gormesol a phroblemau wrth i’r symudiad, y sylwi a’r canolbwyntio leihau tueddiad y meddwl i grwydro, i bendroni ac i drychinebu.
ꞌRwy’n teimlo fel y gallaf fod yn bresennol a gadael fy mhroblemau ar ôl. ꞌ (Cyfranogwr Grŵp)
Mae nifer o bobl wedi dod i’r grŵp yn teimlo’n bryderus ac yn unig, ond maen nhw wedi dod o hyd i gyfeillgarwch, i ymwybyddiaeth ystyriol ac i deimlad o gymuned, gan eu galluogi nhw i ddatblygu hyder ar adegau eraill.
“Rwyf bob amser yn gadael yn teimlo gymaint yn hapusach ac yn gryfach. Rwyf hyd yn oed wedi gallu mynd yn ôl i weithio.” (Cyfranogwr Grŵp)
Yn ogystal â gwneud gweithgareddau crefft gyda’i gilydd, mae rhagor o gefnogaeth ar gael trwy grŵp trafod a gweithgareddau cymdeithasol, bod yn gefn i’w gilydd mewn cyfnodau anodd, ond hefyd defnyddio eu celf i ddarparu mannau hyfryd i ddathlu pen blwyddi, priodasau a chyflawniadau personol. Mae pobl yn teithio o dde Cymru gyfan, felly mae wedi datblygu o fod yn brosiect lleol yn un i’r gymuned ehangach.
“Rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n fawr wrth weld pobl yn dod yn fwy hyderus, yn fwy caredig â nhw eu hunain, ac yn cydgysylltu ag eraill ac mae’n parhau i lunio fy nhrywydd fy hun.” (Svetlana)
Yn y dyfodol mae Svetlana yn gobeithio hyfforddi mewn meddylgarwch ffurfiol er mwyn ei rannu mewn cymunedau lle nad oes ganddi fynediad iddynt ar hyn o bryd.
“Rwy’n teimlo fel fy mod wedi cael fy ysbrydoli i wneud pethau – i wneud unrhyw beth. Rwy’n gadael yn llawn syniadau, yn hapus ac yn falch ohonof fy hun.” (Cyfranogwr Grŵp)
Manylion cyswllt:
Ebost: woolsilkart@gmail.com
Gwefan: https://woolandsilk.co.uk/
Facebook: https://www.facebook.com/svetlana.lilley
Instagram: https://www.instagram.com/wool_and_silk_art/
TikTok: https://www.tiktok.com/@woolsilk.svetlana
LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/svetlana-lilley-093b462a5
I archebu: https://bookwhen.com/woolandsilkartstudio#focus=ev-sbzbq-20260320090000