“Rwy’n hynod o ddiolchgar i mi fy hun pan yn iau am fod yn barod i arbrofi gydag ymarfer meddylgarwch a’i fabwysiadu yn rhan o’m bywyd bob dydd. Y gwerthfawrogiad hwn sy’n sail i fy awydd i barhau i ddwysáu fy nealltwriaeth, gan gynnwys fy ymchwil PhD.”  (Tom Blackwell)

“Gallwn ddweud bod gan addysg Waldorf sawl man cychwyn. Un o’r rhain yn bendant yw datblygiad y plentyn. Serch hynny mae Rudolf Steiner hefyd yn ein hatgoffa bod yn rhaid i ni sy’n athrawon weithio arnon ni ein hunain; dyma fan cychwyn arall athroniaeth ein haddysg.” 

“Os yw addysg Waldorf yn ystyriol yn barod, fe all wella ein dealltwriaeth o’r hyn mae’n ei olygu i ddefnyddio meddylgarwch mewn addysg, a’r hyn yw gwir ystyr meddylgarwch…Gall dynnu sylw at ffyrdd y gall addysg Waldorf ysbrydoli addysg a meddylgarwch – mewn – addysg, gan ein caniatáu ni i ystyried sut rydyn ni’n cyflwyno addysg, ond hefyd sut rydyn ni’n defnyddio meddylgarwch mewn addysg.”

“Rwy’n ymwybodol iawn o’r llenyddiaeth ymchwil, o sgyrsiau gydag athrawon tu mewn a thu allan i fudiad Waldorf – a chyda phobl ifanc eu hunain – bod ar addysg angen ymateb mewn ffordd ystyrlon i gefnogi datblygiad cyfannol cenedlaethau’r dyfodol. Mae fy ngwaith i yn cynrychioli fy ymdrechion i yn hyn o beth.”

Mae ei ymrwymiad i botensial trawsnewidiol addysg yn un rhyngwladol. Mae wedi meithrin partneriaethau gydag addysgwyr a mudiadau ledled y byd, gan gynnwys Jhamtse Gatsal’s Children’s Community; cartref ac ysgol i blant bregus yn yr Himalaia yn India, yn ogystal â menter addysgol llawr gwlad yn Ethiopia sydd wedi ei hanelu at gynyddu defnydd ohoni a chydraddoldeb i gymunedau ar y cyrion.  Trwy’r holl bartneriaethau hyn mae’n parhau i ganolbwyntio ar feithrin a chefnogi addysg sydd ag urddas, ac â pherthyn, ac â datblygu potensial dynol yn greiddiol iddo.  Yn ddiweddar hefyd trefnodd Tom ddwy sgwrs i gael dechrau trafodaeth fyd-eang sut y gall meddylgarwch fod yn bwysig yn Waldorf. Daeth addysgwyr ac eraill i’r sgyrsiau hyn o Brasil, Yr Ariannin, o Fecsico, o UDA, o’r DU, o Hwngari, o wlad Thai, ac o Indonesia. Yn ogystal mae wedi bod mewn cysylltiad ag eraill yng Nghanada, yn Chile, yn Periw, yn Norwy, yn Ynysoedd Philippines, yn Awstralia, yn Seland Newydd ac yn UDA.

Ebost: tom@tomblackwell.education

Gwefan: www.tomblackwell.education

Instagram: https://www.instagram.com/tomblackwell.education/

LinkedIn: Tom Blackwell | LinkedIn

Skip to content