“Rwyf eisiau gofalu am enw da meddylgarwch. Rwyf eisiau ei gyflwyno fel rhywbeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd â sylfaen ddofn ddeallusol, rhywbeth sydd o fudd pawb ym mhobman, rhywbeth a all gael ei ymarfer yr un mor rhwydd mewn archfarchnad neu mewn teml!”

  (Andrew Lewis)

“Wrth gwrs ei fod yn bwysig darllen, astudio, dysgu’r hyn mae eraill wedi ei ddarganfod ond ni ddylai hynny fod y cwbl sydd yna. Fy mhrif argymhelliad i bob amser oedd fy mhrofiad i, fy mywyd i, fy ymarfer i.”

“Rwy’n meddwl yn benodol am un person. Mae hi bob amser yn awyddus i ddweud wrth eraill yr hyn mae ymarfer meddylgarwch wedi ei wneud iddi hi. Mae ei thrawsnewidiad graddol wedi ysbrydoli ac mae ei pharodrwydd cyson i dderbyn o’r cychwyn cyntaf wedi bod yn eithriadol.”

“Mae ymateb cleientiaid wedi bod yn anhygoel. Roedd hyn yn wir am y rhai â phroblemau cysgu, gorbryder, straen cronig, profedigaeth a hyd yn oed anhwylderau corfforol, a oedd yn aml yn gwaethygu pan o dan straen.”

Equanimity.org@gmail.com

 

https://www.equanimity.wales/about

 

Skip to content