“I mi, meddylgarwch yw rhoi sylw parhaus i’r funud hon. Pan rwyf ar yr olwyn rwyf yn tiwnio mewn yn barhaus i adborth cynnil cyffyrddol: pwysedd fy mysedd, lleithder y clai, cyflymder yr olwyn, rwyf hyd yn oed yn sylwi ar fy anadl fy hun yn arafu ychydig. Mae fy nghrochenwaith i wedi bod yn faes hyfforddi naturiol i feddylgarwch heb i mi o reidrwydd sylweddoli hyn ar y cychwyn!”

                                                                    (James Fitzgerald)

“Yn ddiarwybod mae nifer o grochenwyr yn cydamseru eu symudiadau gyda’u hanadl – yn enwedig pan yn siapio muriau neu yn llunio ffurfiau. Dros amser, rwyf wedi sylwi fy mod yn gwneud hyn yn naturiol.  Mae’r cydgyslltu rhythmig hwn yn atgyfnerthu canolbwyntio tawel a gall ddwysáu meddylgarwch a llif, y naill fel y llall.”

“Rwyf wedi clywed mai llif creadigol, sydd hefyd wedi ei ddisgrifio fel cyflwr llifo, yw’r hyn s’yn digwydd pan fo’r sylw hynny sydd wedi ei ganolbwyntio yn dod yn ddiymdrech ac yn ymgollyngiad. Rwy’n teimlo mor lwcus o gael profi hyn fwy neu lai yn ddyddiol. Mae fy nealltwriaeth i o amser yn anffurfio ac mae fy ‘ego’ neu fy hunan-ymwybyddiaeth  yn crebachu (neu efallai yn mynd yn ddibwys), ac mae fy ngweithgareddau, er enghraifft gwydro, torri ymylon, lluchio etc yn teimlo bron yn awtomatig”.

“Yr ailadrodd/ ymarfer yw’r sylfaen sydd wedi dechrau fy nhaith mewn meddylgarwch. Canoli’r clai, rhoi sbrag dan olwyn, torri’r ymylon, cerfio, tywallt y mowldiau bwrw etc – mae’r rhain yn weithgareddau ailadroddus. I mi, mae ailadrodd yn tawelu fy lleisiau mewnol ac yn hoelio fy sylw. Rwyf wedi siarad â ffrindiau sy’n myfyrio ac mae’n swnio’n debyg i ymarferion myfyrio. Unwaith y bydd y meddwl yn tawelu, mae’n haws symud o ymwybyddiaeth ystyriol i lif creadigol llawn.”

Yn ogystal mae meddylgarwch wedi cynnal ei allu i sylwi ar feddyliau ‘dydi pethau ddim yn edrych fel mae ef eisiau iddyn nhw fod’ neu storїau o ‘mynd i nunlle hefo hwn’, heb ymgolliꞌn ormodol ynddyn nhw a digalonni. Mae ymryddhau o farnu yn broses barhaus maeꞌn ei ymarfer, ac er y pwysau real mai ei greadigrwydd yw ei fywoliaeth hunan-gyflogedig, maeꞌn ystyried bod meddylgarwch yn rhan fawr o pham nad ywꞌn teimlo straen yn ormodol.

 

xiberrasceramics@gmail.com

https://xiberrasceramics.etsy.com

 

https://www.facebook.com/XiberrasCeramics/

@xiberras_ceramics

linktree: https://linktr.ee/Xiberras_ceramics

Skip to content