“Rydym yn dechrau datblybu ymarfer meddylgarwch mewn meysydd sydd mewn perygl oherwydd straen a gorweithio.”
Ers 2017 mae Sefydlaid EduMind wedi bod yn hyrwyddo meddylgarwch yng ngwlad Pwyl aꞌi addysgu. Un o brif egwyddorion y sefydliad yw dod â meddylgarwch i feysydd lle mae straen a gorweithio yn fwyaf cyffredin. Mae llawer oꞌu gwaith yn canolbwyntio ar faes addysg, gan nodi fod y sector hwn o risg uchel o ddioddef o straen ac felly â’r potensial o fuddion pell-cyrhaeddol.
Maeꞌr sefydliad yn defnyddio nifer o ymarferion a thechnegau meddylgarwch i greu hyfforddiant a chymorth pwrpasol sydd wediꞌi deilwra i anghenion unigolion a mudiadau ar draws gwlad Pwyl. Maeꞌr tîm o athrawon meddylgarwch ardystiedig yn cyflwyno amrywiaeth o opsiynau o gyrsiau meddylgarwch ffurfiol fel MBSR (Lleihau Straen trwy ddulliau sy’n seiliedig ar Feddylgarwch), MBLC (Cwrs Sut i Fyw sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch), ‘Bod yn Rhiant Ystyriol a Meddylgar’ a ‘Byw yn y Presennol’, i ymagweddau llai ffurfiol er enghraifft meddylgarwch ym mywyd pob dydd. Mae EduMind bob amser yn gweithio i gyflwynoꞌr hyfforddiant aꞌr gefnogaeth sydd eu hangen i ddatblygu amgylchedd o ddysgu a gweithio lle gall pawb gael gafael ar y sgiliau aꞌr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Mae gan EduMind wefan syꞌn llawn dop o wybodaeth am feddylgarwch, ei fuddion a sut iꞌw defnyddio, syꞌn adnodd ac yn hyb i wybodaeth a hyfforddiant. Fel sefydliad mae bob amser yn bwriadu cysylltu â phartneriaethau meddylgarwch a mudiadau eraill. Ym mis Tachwedd 2025 daeth yn bartner â Phrifysgol WSB ‘Merito’ a sefydliad Heart of Mindfulness/ Calon Meddylgarwch i gynnal cynhadledd uchelgeisiol: ‘Mindfulness and compassion – about wisdom, which supports wellbeing and can change the world’.

Croesawodd y gynhadledd athrawon, seicolegwyr, therapyddion iaith a lleferydd, a llawer o bobl broffesiynol eraill syꞌn gweithio â phlant, yn ogystal â rhieni, mudiadau heb fod yn perthyn i lywodraeth, myfyrwyr doethuraidd a phobl â diddordeb mewn byw mewn ffordd ymwybodol. Daeth ymchwilwyr o wlad Pwyl a rhai rhyngwladol ynghyd, yn ogystal â darlithwyr a chyfranogwyr i drafod themâu o sut i gynnal datblygiad plant trwy ddatblygu perthynas gref ac iach gyda nhw yn y cartref ac yn yr ysgol, sut i fod y rhiant neuꞌr oedolyn syꞌn bresennol sydd ei angen ar blant a rôl y system addysg i gynorthwyoꞌr amcanion hyn.
Mae sefydlaid EduMind yn angerddol dros ddod â meddylgarwch i ysgolion a mudiadau i hybu iechyd a llesiant a helpu oedolion a myfyrwyr ddelio â chyfnodau anodd trwy dalu sylw a bod yn ystyriol. Y gobaith yw sicrhau cyllid i barhau i wneud eu hyfforddiant i addysgwyr a rhieni yn hygyrch. Maent yn agored i gydweithio â mudiadau syꞌn ymwneud â gweithgareddau tebyg aꞌr rhai syꞌn arbenigo yn y maes hwn.
I holi cysylltwch â:
Ceir rhagor o wybodaeth am y gwaith maen nhw’n ei wneud ar eu gwefan:
Ac ar y cyfryngau cymdeithasol:
https://www.facebook.com/FundacjaEduMind
https://www.instagram.com/fundacja_edumind/