“I mi, meddylgarwch yw caredigrwydd a bod yn hunan-ystyriol ac wedyn maeꞌn ymestyn at eraill – er fy mod yn dysgu hyn o hyd gan fod pob diwrnod yn ddiwrnod o ddysgu rhywbeth.”
(Vic Graham – BZ Mindfulness)
Daeth profiad meddylgarwch cyntaf Vic Graham, sefydlydd BZ Mindfulness, mewn encil ragarweiniol nifer o flynyddoedd yn ôl, a oedd yn ysbrydoliaeth iddi i hyfforddi ymhellach. Gan ei bod yn byw gyda chyflwr iechyd cronig, roedd y cwrs Breathworks Mindfulness for Health yn apelio ati ac yn dilyn hwn cwblhaodd uwch hyfforddiant fel athrawes meddylgarwch. Roedd hwn yn cyd-fynd âꞌi chefndir fel nyrs ddarlithydd ym Mhrifysgol Wrecsam, lle gweithiodd hyd 2024 nes dod yn ddarlithydd llawrydd ac yn athrawes meddylgarwch.
Tra roedd yn Wrecsam, addysgodd Vic ddau gwrs cyflawn i staff o Meddylgarwch ar gyfer Straen a chyflwyno meddylgarwch i fyfyrwyr israddedig mewn gofal iechyd, cyfleoedd maeꞌn eu gwertharwogiꞌn fawr. Yn ddiweddar dywedodd cyfranogwr o staff wrthi, “Roedd yn rhaid i mi frwydro gyda fy rheolwr llinell i gael yr amser i fynd ar y cwrs, ond roedd yn werth ei wneud, rwyf yn defnyddioꞌr adnoddau hyd heddiw. Rwyf yn defnyddio meddylgarwch bob dydd o hyd.” Mae ganddi atgofion hynod braf o un cwrs gyda myfyrwyr ail flwyddyn maetheg a deieteteg, a sbardunodd ddadl fywiog am fwyta yn ystyriol.
Arweiniodd ddealltwriaeth Vic o feddylgarwch fel adnodd syꞌn seiliedig ar dystiolaeth, gyda chefnogaeth NICE, iddi weithio am gyfnod byr gyda Thîm Poen Cronig yn addysgu meddylgarwch ar Raglen Rheoli Poen i bobl oedd yn byw gyda phoen parhaus yng ngogledd Cymru. Ategwyd y gwaith hwn gan astudiaethau blaenorol syꞌn awgrymu y gall ymarfer rheolaidd dorri ar draws y ‘cylch poen’, lleihau sgôr poen a adroddir a gwella hwyliau.
Mae gwaith presennol Vic yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac unigolion syꞌn chwilio am hunan-ofal ystyriol, rhywbeth mae ganddi ddealltwriaeth bersonol ohono. Digwyddodd llawer oꞌi hyfforddiant dechreuol yn ystod pandemig Covid, pan oedd yn hunan-warchod am dair blynedd oherwydd ei chyflwr iechyd. Er bod hyn yn heriol, daeth buddion pwysig gyda’r hyfforddiant , fel yr eglura, “ Os rhwybeth, fe fuꞌn help i fy nghynnal i wrth i mi elwa o gymuned feddylgarwch gyflawn arlein.”

“Yn ystod yr amser hwn, dysgais gymaint am feddylgarwch ac wrth i mi barhau âꞌm siwrnai a dal ati i ymarfer meddylgarwch fe drawsffurfiodd fy mhrofiadau gyda fy iechyd.”
Mae Vic yn hynod o ymwybodol oꞌr angen am ddata gwyddonol a gwerthuso canlyniadau. Mae wedi mesur y rhain yn ei haddysgu ei hun, gyda chwrs diweddar yn cael sgôr bositif o 90% o ran canlyniadau. Maeꞌn teimlo bod hyn yn hollbwysig i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, a allai ‘wyro’ i ymarfer meddylgarwch unwaith y bydd tystiolaeth yn gefn iddo.
O ganlyniad i lwyddiant ei chyrsiau, mae Prifysgol Staffordshire wedi gofyn i Vic addysgu gwneud-penderfyniadau mewn modd ystyriol syꞌn gysylltiedig â hunan-ofal ac â meddylgarwch, ac mae grwpiau cymunedol wedi gofyn iddi gyflwyno sgyrsiau a sesiynau blasu. Mae hyn yn gymorth iꞌw nod tymor hir o ddod â meddylgarwch i ragor o grwpiau mewn addysg uwch, ym maes iechyd ac mewn cymunedau lleol. Maeꞌn gobeithio y bydd ymchwil pellach yn ategu gwaith athrawon meddylgarwch a helpu datblygu rhagor o gymunedau ystyriol.
Mae Vic yn parhau i ddatblygu trwy fynd ar encil, trwy oruchwyliaeth a thrwy ddysgu parhaus. Gan ddefnyddio ei chefndir addysgu prifysgol, maeꞌn dod â hiwmor, natur gynnes ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol iꞌw gwaith. Fel y dywed hi, gall addysgu fod yn seiliedig ar ddata ac ymchwil tra ei fod hefyd yn bersonol ac yn agos-atoch.
Mae Vic yn addasu ei hymarfer meddylgarwch iꞌw hwyliau aꞌi hanghenion gofal iechyd o wythnos i wythnos. Yn aml bydd yn mynd am dro gydaꞌi chŵn drwy gefn gwlad Cymru, gan symud yn araf ym myd natur. Mae ei chŵn baset yn cerdded ac yn ffroeni pethau yn araf, gan ei helpu hi i arafu, sylwi ar yr hyn sydd o’i chwmpas ac arsylwi manylion y gellir yn hawdd fethu fel arall. Pan mae ei chymalau wedi cyffio, maeꞌn gallu ymatal rhag symud ond fel arfer maeꞌn annog ei hun i symud yn ystyriol. Yn ddiweddar, tra roedd yn teithio gartref ar fws ar ôl gwneud gormod mewn un diwrnod, roedd mewn poen ac yn ystyried cymryd meddyginiaeth ato. Yn lle gwneud hyn, ymbwyllodd ac ymarfer meddylgarwch. Ar y siwrnai swnllyd, caeodd ei llygaid a chwblhaodd ymarfer 20-25 munud, ac yn raddol dechreuodd deimloꞌn ysgafnach ac anadlu yn fwy cyfforddus. Yn hwyrach sylweddolodd nad oedd angen arni gymryd meddyginiaeth at y boen wediꞌr cwbwl; y cwbl roedd ei angen arni oedd gorffwyso a magu nerth newydd. I Vic, roedd hwn yn enghraifft bositif eithriadol o wneud i feddylgarwch weithio iddi hi ac maeꞌn ei hannog i ddal ati i rannuꞌr sgiliau hyn ag eraill.
I gysylltu â Vic:
Dros ebost: Victoria.graham1805@gmail.com
Facebook: BZ Mindfulness