“Wrth edrych yn ôl, roeddwn yn ei chael hi’n anodd tawelu’r meddwl. Fe fyddai’n rhaid i mi ffrwyno’r tennyn yna bob rhyw ddwy eiliad.”

“Rwy’n meddwl bod dosbarthiadau rheolaidd mor bwysig, oherywdd ein bod yn dysgu yn barhaus. Y peth gwych am feddylgarwch yw bod o hyd, o hyd rhywbeth mwy i’w ddysgu.”

“Rwyf o hyd wedi bod â diddordeb angerddol am greu adnodd i bobl ifanc ddelio â’r hyn a all fod yn gyfnod llawn straen mewn bywyd. Maen nhw oddi cartref am y tro cyntaf gyda chyrsiau newydd a heriau newydd. Mae rhoi adnoddau bach iddyn nhw yn eu helpu gyda’u profiad bywyd cyflawn, nid yn unig yn y dosbarth. Dyna pam y dechreuon ni y podlediad meddylgarwch, Podlediad Yn Eich Poced,  iddo allu bod yn llais iddyn nhw.”.

Un agwedd ar fywyd lle mae ei hymarfer wedi bod yn amrhisiadwy oedd dygymod âꞌi diagnosis o sglerosis ymledol ddeng mlynedd yn ôl. Maeꞌn disgrifio ei salwch fel ‘ymwelydd di-groeso’ sydd angen ei dderbyn aꞌi drin gyda charedigrwydd ac mewn ffordd ystyriol. Roedd ymarfer dyddiol yn helpu Emma i alaruꞌr golled oꞌr hyn a fu, a chanolbwyntio ar yr hyn a all ei wneud, meithrin ffordd o feddwl syꞌn rhoi cymorth iddi ddechrauꞌr diwrnod yn llawn cyffro am y posibiliadau a allai fod oꞌi blaen. Yn ôl Emma, y sgiliau pwysicaf mae wedi eu meithrin yw, bod yn ddiffuant, bod yn ystyriol a bod yn bresennol.

“Mae meddylgarwch wedi fy addysgu mai dyma pwy ydw i nawr, ac mae angen arna i i fod yn bresennol gyda hwnna. Mae heddiw wir yn rhodd; mae’n anrheg. Dydw i ddim yn gohirio pethau tan ddiwrnod arall bellach, os oes gen i syniadau rwy’n bwrw ati’n syth oherwydd mae’n wirioneddol rhaid i chi fyw pob dydd a chyflawni cymaint â phosibl mewn bywyd.”

Manylion cyswllt:

Ebost:  emma.marshman@southwales.ac.uk

Instagram: @ejmarshm   @creativesmilitia

LinkedIn: Emma Marshman

Gwefan:  University of South Wales – University of South Wales

Dolen podlediad:   Podcast in your pocket – YouTube