“Ffordd wych o gysylltu â’r funud ac â natur ac o fod yn bresennol.” (Davy Greenough)
Dechreuodd meddylgarwch i Davy yn 2008 fel cymorth ymarferol yn ystod cyfnod o waith caled, o straen a gorbryder. Ymunodd â chwrs wyth wythnos Therapi Gwybyddol syꞌn Seiliedig ar Feddylgarwch ym Mhrifysgol Bangor, ac o fewn wythnosau, teimlodd fod ei orbryder yn cilio.
Gwnaeth y cwrs cyntaf hwnnw fwy na lleddfu gorbryder Davy; fe agorodd lwybr gydol oes o ymarfer, o astudio, ac o rannu. Aeth ymlaen i ddwysáu ei hyfforddiant trwy gwblhau cwrs Byw yn Ystyriol Yn Seiliedig ar Feddylgarwch gyda Judith Soulsby, cwrs hyfforddi athrawon gyda Sarah Silverton, helpu gydag addysgu, ac encil dawel bum niwrnod yn Nhrigonos yng Ngogledd Cymru. Yn ystod hyn lluniwyd ei ddealltwriaeth gan athrawon ac awduron gan gynnwys Jon Kabat-Zinn, Thich Nhat Hanh ac Eckhart Tolle. Dros gyfnod o amser, datblygodd addysgu Davy ei hun i gynnwys meddylgarwch ffurfiol ac anffurfiol fel ei gilydd, gan gynnwys nifer o flynyddoedd yn cynnal grŵp ymarfer cymunedol yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi.
Mae ei ymarfer dyddiol ef yn syml: tair i bum munud o feddylgarwch boreol gyda Jane, ei wraig, yn ogystal â meddylgarwch anffurfiol yn ystod y dydd. Gall olygu sylwi ar y corff wrth wneud gwaith tŷ, bod yn ymwybodol wrth yrru, neu ddal y meddwl wrth iddo araf lithro i gynllunio. Maeꞌr effaith wedi bod yn un ddofn: llai o orbryder, mwy o orfoledd, a bywyd syꞌn teimloꞌn fyw ac yn llawn lliw.
Yn ogystal mae wedi newid sut maeꞌn ymdopi â chyfnodau anodd. Nid yw meddylgarwch am dawelu yn unig; mae am fod yn bresennol pan fo pethauꞌn anodd, eglura Davy. Yn hytrach nag atal profiadau amhleserus, mae Davy yn disgrifio gallu ymdrin âꞌr hyn syꞌn digwydd, gan ei helpu ef i fod yn fwy presennol gydag anwyliaid tra bo “bywyd go iawn” yn digwydd oꞌi gwmpas.
Heddiw, mae Davy yn rhannuꞌr ymarfer trwy gerdded yn ystyriol. Mae wedi cymhwyso i arwain teithiau cerdded yr iseldir trwyꞌr Mountain Training Association ac i roi cymorth cyntaf awyr agored. Maeꞌn arwain teithiau o gwmpas Caergybi, Cwm Idwal a Pharc Cenedlaethol Eryri, gyda mudiadau fel Y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a grwpiau lleol ar hyd llwybr yr arfordir ar Ynys Môn.
Maeꞌr fformat yn syml ond yn bwerus. Maeꞌr cyfranogwyr yn cerdded y rhan gyntaf mewn distawrwydd, gan adael bwlch llydan rhwng pob person. Maeꞌr grŵp yn cael saib tair neu bedair gwaith am fyfyrdodau byr, wrth sefyll neu wrth eistedd fel boꞌn briodol. Efallai y bydd darlleniadau neu gerddi syꞌn gysylltiedig âꞌr tirwedd, âꞌr hanes neu âꞌr tymor. Tua hanner ffordd, mae cwpanaid o goffi a byrbryd yn nodiꞌr pwynt lle byddant yn dechrau sgwrsio wrth gerdded yn ôl.
Mae Davy yn mynegi tawelwch nid fel rheol, ond fel gwahoddiad. Mae rhai yn ei chael hiꞌn anodd; eraill yn teimlo rhyddhad fod y pwysau arferol i sgwrsio wedi ei leihau. Bydd rhai yn aros yn dawedog hyd yn oed yn ystod yr ail hanner. Mae hiwmor yn help, ac maeꞌr pwyslais bob amser ar arbrofi yn hytrach nag ar berfformio.

“Mae’n ffordd wych o gysylltu â’r foment ac â natur ac o fod yn bresennol.” (Cyfranogwr)
“Rydyn ni’n cerdded mewn mannau mor hyfryd mae’n gyfle euraidd i werthfawrogi’r byd natur sydd gennyn ni o’n cwmpas.” (Cyfranogwr)
Mae pobl yn aml yn gadael yn teimlo eu bod wedi ymlacio ac wedi sadio. Mae nifer ohonyn nhw yn sylwi go iawn ar yr hyn syꞌn eu hamgylchynu, efallai am y tro cyntaf ers tro. Maeꞌr camau yn arafu, maeꞌr “parablu dibaid yn y meddwl” yn tawelu, ac maeꞌr corff yn cofio sut i symud heb ruthro. I ymwelwyr, maeꞌr teithiau cerdded yn cynnig cysylltiad cofiadwy ag Ynys Môn ac ag Eryri; iꞌr bobl leol, cyfle i adnewyddu perthynas â mannau syꞌn gyffredin iddynt.
“Mae yna naws tawel a meithrinol i bob taith, gan eu gwneud yn ddelfrydol i’r sawl â iechyd meddwl bregus.” (Cyfranogwr)
Wrth galon ymagwedd Davy mae sadio, teimlo cysylltiad âꞌr ddaear, sylwi ar ehangder, a theimlo ei hun yn rhan o rywbeth mwy:
“Yn y mynyddoedd, wrth ymyl dŵr, neu ar yr arfordir, mae pryderon yn newid o ran graddfa – nid oherwydd eu bod yn diflannu, ond oherwydd eu bod o fewn cyd-destun ehangach o awyr, meini, tywydd ac anadl.”
Fe fyddai Davy wrth ei fodd yn gweld meddylgarwch yn dod yn rhywbeth mwy cyffredin, gan gynnwys “saib meddylgarwch” dyddiol mewn ysgolion. Yn ogystal maeꞌn gweld potensial mewn cerdded yn ystyriol trwy bresgripsiynu cymdeithasol ac maeꞌn gobeithio cynnig teithiau cerdded ystyriol mewn natur i ragor o ymwelwyr, gan gadw cysylltiad rhwng pobl âꞌr ardal leol gan wneud yr ymarfer yn fwy hygyrch.
Ymwneud yn llawnach â bywyd sydd wrth wraidd cerdded yn ystyriol Davy, nid dianc rhagddo. Cam wrth gam, anadl wrth anadl, maeꞌn gwahodd pobl i ddod yn ôl iꞌr man lle maen nhw yn barod.
I gysylltu â Davy:
Ebost: davyrgreenough@hotmail.com
Gwefan: Events | Eryri National Park
Facebook: tudalen grŵp – Holyhead mindful walking group
Instagram: davy_walk
LinkedIn: Davy Greenough