“Y ffordd i ddatblygu yw trwy rwydweithio, parodrwydd a bod yn agored i ymgysylltu a chyd-weithio” (Yr Athro Rebecca Crane)
Wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor, gogledd Cymru, maeꞌr Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch wedi datblygu o fenter leol i ganolfan ryngwladol o ddysgu a chymuned. Mae ei gweledigaeth yn syml ond yn ddwys: meithrin meddylgarwch i leihau afiechyd, cynyddu llesiant a helpu bobl ffynnu.
Yn ei blynyddoedd cynnar, roedd gwreiddiauꞌr Ganolfan yn ddwfn yn yn y DU, yn dod â meddylgarwch i faes iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y GIG. Roedd y gwaith wedi ei angori yn y rhaglenni seiliedig – ar – dystiolaeth Dulliau Seiliedig ar Feddylgarwch i Leihau Straen (MBSR) a Therapi Ymwybyddol Seiliedig ar Feddylgarwch (MBCT). Yn raddol datblygodd y gwaith tu hwnt i ymarfer clinigol gyda hyfforddeion yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys meysydd corfforaethol, yr heddlu, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus eraill. Ers 2017, ac yn enwedig gydag ehangu dysgu arlein yn ystod Covid, mae ei ddylanwad wedi dod yn raddol yn fwy byd-eang.
Maeꞌr ehangu hwn yn adlewyrchu newid ehangach ym maes meddylgarwch. Maeꞌr hyn a ddechreuodd yn bennaf mewn meysydd clinigol bellach yn berthnasol i faes iechyd, i addysg, i weithleoedd, i fywyd cymunedol a datblygiad personol. Heddiw, maeꞌr Ganolfan yn croesawu pobl sydd eisiau meithrin meddylgarwch er eu llesiant eu hunain ac er budd y rhai maent yn cyd-fyw ac yn cyd-weithio â nhw.
Dechreuodd taith feddylgarwch Yr Athro Rebecca Crane ymhell cyn i feddylgarwch ddod yn gyffredin ym maes iechyd ac ym maes addysg. Ar ôl cael ei denu at feddylgarwch tra roedd yn ei harddegau hwyr, aeth ar gwrs rhagarweiniol Bwdїaidd un penwythnos, yn ddiweddarach teithiodd yn India am naw mis, ac yna treuliodd rai misoedd yn ymarfer mewn teml yng Ngwlad Thai, gan ddod ar draws dysgeidiaethau a luniodd ei gwerthoedd aꞌi hymarfer. Ar ôl hyfforddi fel therapydd galwedigaethol yn Rhydychen, parhaodd i ddwysáu ei meddylgarwch trwy gysylltu â mynach Bwdїaidd ac encilion.
Erbyn canol y 1990au, roedd meddylgarwch yn ymarfer personol ac yn ddiddordeb proffesiynol a oedd yn dod iꞌr amlwg, fel ei gilydd. Roedd Yr Athro Mark Williams ym Mhrifysgol Bangor yn recriwtio cyfranogwyr i ymchwilio iꞌr hyn ddaeth yn MBCT, gan ddefnyddio pobl o dîm iechyd meddwl cymunedol Rebecca yng ngogledd Cymru. Testun y profion ymchwil ym Mangor oedd defnydd o MBCT fel ymagwedd i atal ailwaelu mewn pobl a oedd mewn perygl o isleder dro ar ôl tro, gan bontio hen ymarfer myfyrgar a gwyddoniaeth wybyddol gyfoes.
I Rebecca, roedd effaith MBCT yn syfrdanol. Gwelodd newid dros gyfnod o wyth wythnos a oedd yn teimloꞌn annhebyg i unrhyw beth roedd wedi bod yn dyst iddo oꞌr blaen yn ei gwaith yn y gwasanaethau iechyd meddwl. Nodwyd pwynt arloesol yn y maes wrth gyhoeddiꞌr papur cyntaf oꞌr profion gwreiddiol yn 2000, gan ddangos lleihad sylweddol mewn graddfa ailwaelu mewn pobl ag iselder clinigol. Penodwyd Rebecca yn gyfarwyddwr sefydlol y Ganolfan ychydig cyn i Mark Williams adael Bangor i ddechrau swydd newydd ym Mhrifysgol Rhydychen.
Datblygu tystiolaeth, hyfforddi athrawon a llunio safonau
Sefydlwyd y Ganolfan gyda diben ymarferol ac uchelgeisiol: dod â meddylgarwch iꞌr GIG mewn ffordd ddefnyddiol, gywir a chadarn. Roedd tystiolaeth yn dechrau dangos bod ymagweddau a oedd yn seiliedig ar feddylgarwch yn gallu helpu, ond roedd cwestiynau allweddol iꞌw hateb o hyd. Sut y dylid addysgu rhaglenni? Sut y gellid hyfforddi athrawon mewn ffordd dda? Sut oedd modd adnabod ansawdd? Sut y gellid ymgorffori meddylgarwch mewn gwasanaethau go iawn?
Arweiniodd y cwestiynau hyn staff y Ganolfan i gymysgedd hynod o ymchwil, o ymarfer ac o hyfforddi. Ymgysylltodd Rebecca ag ymchwilwyr ledled y byd, cyd-weithiodd yn rhyngwladol ar bapurau, ac arweiniodd ar ddatblygu Dulliau Syꞌn Seiliedig ar Feddylgarwch: Meini Prawf Asesiadau Addysgu, sydd wedi bod yn ddylanwadol yn rhyngwladol. Mae gwaith y Ganolfan bob amser wedi bod yn sylwadol ac yn berthynol: casglu tystiolaeth, dysgu o brofiadau a datblygu cymunedau ymarfer.
Dechreuodd Rebecca drafod yn gynnar â Breathworks ac â chyd-weithwyr yn Yr Alban, yn Rhydychen ac yng Nghaerwysg a arweiniodd at greu Rhwydwaith y DU i athrawon a oedd yn defnyddio meddylgarwch, ac yn ddiweddarach a ddaeth yn British Association of Mindfulness-Based Approaches (BAMBA), gan helpu creu canllawiau ymarfer da a chyd-safonau i hyfforddi athrawon meddylgarwch. Maeꞌr ysbryd hwn o gyd-weithio yn allweddol i hunaniaeth y Ganolfan: cyd-weithio i warchod integriti addysg meddylgarwch wrth iddo ehangu.
Daeth y myfyrwyr graddfeistr cyntaf o gefndiroedd ym maes iechyd, ond gydag amser cyrhaeddodd gyfranogwyr o nifer o gyd-destunau proffesiynol a phersonol. Yn gynyddol daeth hyfforddi athrawon o ledled y DU ac yn rhyngwladol a dylanwadodd ar fywyd dinesig yng Nghymru. Dyfarnwyd y tender i Brifysgol Bangor i gyflwyno hyfforddi meddylgarwch yn y Senedd, gydag aelodauꞌr cynulliad aꞌr staff yn ymwneud â meddylgarwch o ran iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn adlewyrchu un o obeithion ehangach y Ganolfan: y bydd meddylgarwch yn cynnal systemau mwy dynol, mwy myfyrgar a mwy ystyriol.
Mae hanfod y gwaith yn parhau i fod yn berthynol. Nid yw meddylgarwch yn dechneg unigol yn unig; maeꞌn ffordd o feithrin ymwybyddiaeth, caredigrwydd a chadernid a all dreiddioꞌn araf i dimau, i wasanaethau, i deuluoedd ac i gymunedau. Maeꞌr Ganolfan yn meithrin cymunedau ystyriol trwy hyfforddeion, trwy gyd-weithio ym maes ymchwil, trwy ddiwylliant y gweithle a thrwy bartneriaethau parhaus ar draws Cymru, Y DU, a thu hwnt.
Heddiw, maeꞌr Ganolfan yn parhau i ddod ynghyd hen ddoethineb, seicoleg modern a hyfforddiant proffesiynol ymarferol. Mae ei dylanwad yn amlwg mewn ymchwil, datblygu athrawon, safonau, gwasanaethau cyhoeddus, ac yn y bobl niferus sy’n mynd â meddylgarwch iꞌw cymunedau ac yn ei gynnwys yn ei bywydau. O Fangor, maeꞌr gwaith yn lledaenu tu hwnt, gan gael ei gario gan rwydweithiau sydd wedi ymrwymo i ymarfer, i addysgu ac i fyw meddylgarwch gyda gofal.
Manylion Cyswllt:
Gwefan: Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch
Facebook: Centre formindfulness https://www.facebook.com/centreformindfulness
Manylion y cwrs:
Contemplative Psychology: Mindfulness and Compassion | Bangor University
YouTube mindfulness channel: https://www.youtube.com/watch?v=Z2mWpdyKn54&list=PLtgySf_s3NlOfMvH5DFcG7VD5YJVptR8w
Pam dewis Bangor? https://www.youtube.com/watch?v=pupR9tzVkTU&list=PLtgySf_s3NlOfMvH5DFcG7VD5YJVptR8w&index=11