Mae ffotograffiaeth ystyriol yn ein galluogi ni i arafu, edrych, ac edrych eto; gweld ein bywydau mewn ffordd wahanol; ailystyried ein profiad o fywyd a mynd ati i greu newidiadau positif o ran ni ein hunain, o ran eraill, ac o ran y blaned.”


 

Maeꞌr dull yn un sydd yn fwriadol yn hygyrch iawn ac yn un y gellir ei addasu, gan gynnig mynediad gwahanol i feddylgarwch. Maeꞌn dechnegol-isel, yn syml, ac yn chwareus. Nid oes angen unrhyw offer arbenigol – dim ond camera neu ffôn aꞌr parodrwydd i ddod â meddwl agored, arafu, a gwir weld y byd sydd oꞌn cwmpas.

“Mae ffotograffiaeth ystyriol yn adnodd i’n helpu ni i ddod yn fwy ymwybodol a chysylltu mwy â’r funud yma. Gan ddefnyddio ein gweledigaeth a’n dychymyg, gyda lens camera neu ffôn yn angor,  mae’n brofiad o greu ffotograffau mewn ffordd sydd ddim yn barnu, gyda chwilfrydedd, gwerthfawrogiad ac ystyrioldeb.”

“Mewn cyd-destun proffesiynol, mae ffotograffiaeth ystyriol yn adnodd effeithiol mewn cwnsela, gan gynnig ffordd greadigol o archwilio emosiynau a phrofiadau. Mae datblygu’r ffotograffau hyn ar y pryd yn ymddwyn fel adnodd gweledol yn ystod sesiynau cwnsela, gan hyrwyddo trafodaethau a galluogi aelodau staff i roi llais i emosiynau a all fod yn heriol i’w lleisio fel arall. Mae’r dull hwn yn cynnig modd unigryw o fynegi, mae’n hyrwyddo hunan-ymwybyddiaeth, yn gwella straen ac yn meithrin meddylgarwch.”

“Mae miloedd o bobl ledled y byd wedi elwa o’n gwaith ac mae’n cael ei gydnabod fel triniaeth hygyrch a thrawsnewidiol i ddatblygu yn bersonol, yn gymunedol ac yn sefydliadol ac o ran newid positif.”
(Ruth Davey)

O ganlyniad i bartneriaeth â Phrifysgol Swydd Gaerloyw daeth tystiolaeth o hyfforddi wyneb-yn-wyneb ac arlein fel ei gilydd. Maeꞌr canlyniadau yn dangos lleihad mewn gorbryder ac iselder, gwelliant mewn iechyd meddwl a llesiant, cynnydd mewn cysylltu cymdeithasol a datblygu sgiliau cynaladwy. Cewch ragor o wybodaeth yma ynglŷn â sut maeꞌr mewnddirnadaethau wedi eu hymgorffori yn nulliau Look Again, ochr yn ochr ag astudiaethau achos syꞌn rhoi manylion y buddion i gymunedau ac ymarferwyr fel ei gilydd.

Ebost: ruth@look-again.org

Gwefan: https://www.look-again.org

Facebook: https://www.facebook.com/lookagainmindfulphotography/

Instagram: https://www.instagram.com/lookagainmindfulphotography/

LinkedIn:  https://www.linkedin.com/in/ruth-davey

YouTube: https://www.youtube.com/@ruthdavey7738