Meithrin Cymunedau Ystyriol

Mae ein Prosiect Meithrin Cymunedau Ystyriol yn ymwneud â sut y gallwn ni ysbrydoli eraill, gan blethu meddylgarwch drwy bob agwedd o fywyd i rannu’r buddion mor eang â phosibl.

Rydyn ni o’r farn mai’r ffordd orau a’r un fwyaf gost-effeithiol o gyflwyno’r hyn all meddylgarwch gynnig i bobl a chymunedau yw dangos iddyn nhw sut mae’n gweithio mewn cynefinoedd tebyg a sut mae pobl a grwpiau tebyg iddyn nhw wedi elwa ohono.

Wrth gyd-greu gyda mudiadau sydd eisoes yn gweithio mewn cymunedau ledled Cymru gallwn rannu meddylgarwch i helpu pobl o bob oed a phob gallu. Mae’r effaith yn cynyddu drwy ei ddefnyddio yn y gymuned, yn y gweithle, ym maes gofal cymdeithasol, ym maes addysg, ym maes diwylliant, yn y trydydd sector ac mewn iechyd etc yn rhan o fywyd bob dydd.

Dyma sut rydyn ni eisiau gweithio tuag at gyflawni ein gweledigaeth o rannu meddylgarwch i helpu Cymru fod yn wlad fwy gofalgar, fwy caredig, fwy teg a mwy cynaliadwy.

 

Dod o hyd i ragor yma.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adnodd hwn o storїau o Gymru ond hefyd o du hwnt yn tyfu a datblygu. Mae’n amlygu ein teimlad ni o Gymru allblyg a gobeithio y bydd yn ysbrydoli unrhyw un â diddordeb yn y modd y gall meddylgarwch wella ei fywyd.

Er mwyn amlygu’r dystoliaeth gynyddol ar ddylanwad meddylgarwch rydyn ni hefyd wedi cynnwys adran Ymchwil.

Mae casglu’r storїau calonogol hyn yn rhan annatod a pharhaus o Feithrin Cymunedau Ystyriol, gan rannu enghreifftiau o feddylgarwch sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn ychwanegu storїau newydd i’n casgliad wrth iddynt ddod i law ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld eich enghreifftiau chi

Skip to content