Yn ein sesiynau boreol cewch fan i gysylltu, cwmni, amrywiaeth o ymarferion myfyrio meddylgarwch a chefnogaeth. Mae’r tîm o athrawon meddylgarwch hyfforddiedig yn cynnig sesiynau o ddydd Mawrth i Ddydd Gwener bob wythnos o 10-11am, a chyda gwahanol gefndiroedd a phrofiadau gallwch fod yn sicr o ystod o ddarpariaeth.

Dechreuodd ein sesiynau ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf, pan roeddwem yn anelu at gynnig yr hyn y gallem o ran cefnogi yn ystod yr amser heriol hwnnw. Ar y cychwyn roeddem yn rhagweld rhedeg am ychydig o wythnosau neu fisoedd yn y cyfnod hwnnw o argyfwng ond mae wedi dod yn rhan rheolaidd o’n bywydau, i’r tîm ac i rai o’r cyfranogwyr sydd wedi bod yn dod ers y dechrau.

Mae’r tîm wedi newid ac wedi datblygu dros y blynyddoedd wrth i bobl newydd ymuno ac mae cyfranogwyr yn galw heibio dros amser pan fo bywyd yn caniatáu. Mae o wir yn sesiwn galw heibio felly gallwch ddod unrhyw ddiwrnod pan fydd yn gyfleus i chi. Mae pob diwrnod ychydig yn wahanol gan fod arddull wahanol gan bob un ohonom ond bydd ymarfer myfyrio bob amser a chyfle i drafod – gan gynnwys y cyfle i gael sgwrs fach. Rydym yn gweld gwerth y cysylltu mae’r sesiynau hyn yn eu rhoi trwy gyd-ymarfer ac yn aml rhagor o sgwrsio ysgafn.

Ym mis Mawrth 2023 cawsom hyd yn oed encil wyneb-yn-wyneb – cyfle gwych i rai ohonom ni weld ein gilydd go iawn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at drefnu un arall cyn bo hir.

Ymunwch â ni o Fawrth-Gwener ar https://zoom.us/j/764869151

ebost: mindfulnesswalescio@gmail.com

Gwefan: https://mindfulness-wales.org

Facebook: https://www.facebook.com/MindfulnessWales

X: @MindfulCymru

Instagram: @mindfulnesswales

Meddai cyfranogwyr:

“Rwyf mor ddiolchgar am y sesiynau galw heibio arlein hyn gan Meddylgarwch Cymru ers dechrau’r pandemig. Maen nhw wedi bod o gymorth i mi ddatblygu agwedd fwy bositif a myfyriol at fywyd. Rwyf wir yn credu bod hyn wedi atal dychweliad pyliau o orbryder somatig / iselder roeddwn wedi eu profi yn flaenorol ——ac nawr mae gen i adnoddau helaeth i’w defnyddio pe bawn yn cael pwl arall yn y dyfodol!

Mae’r sesiynau yn cael eu harwain gan dîm o athrawon gofalgar a threiddgar, sy’n ein cynnal. Mae croeso bob amser i bobl newydd.”

“Ar ôl yr effaith fuddiol a gafodd Meddylgarwch ar fy chwaer -yng-nghyfraith a sut y bu o gymorth iddi ddatrys rhai o’i phroblemau personol a gyrfaol, dechreuais innau Meddylgarwch yn 2016, gan wneud cwrs gydag athrawon lleol yn Meddylgarwch – y-Gorllewin, a oedd yn ymwneud â sesiynau unigol a rhai mewn grŵp.

Roeddwn yn teimlo bod angen hwn oherwydd fy mod yn dioddef o achosion gorbryder a straen ac roeddwn yn cael triniaeth am hyn gan fy meddyg teulu.

Yn 2019, ar ôl brwydro gyda fy meddyg teulu, o’r diwedd cefais ddiagnosis o anhwylder Parkinson. Wrth edrych yn ôl hyn oedd wrth wraidd fy ngorbryder ac achosion eraill o afiechyd.

Yn ystod Covid, cefais fanylion o grŵp Meddylgarwch arlein gan fy athro Meddylgarwch lleol o Meddylgarwch-y-gorllewin. Roedd y grŵp yn cael ei drefnu i helpu bobl barhau i ymarfer Meddylgarwch yn ystod y pandemig.

Roedd hyn yn gefn aruthrol i mi yn ystod Covid, yn enwedig o gofio bod hyn yn fuan ar ôl cael diagnosis o glefyd Parkinson.

Yn ffodus mae’r grŵp wedi parhau ar ôl y pandemig ac wedi datblygu i fod yn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol gyda nifer o’r aelodau wedi bod yno ers ffurfio’r grŵp yn nyddiau cynnar Covid.”