Darganfyddodd Juliet Firstbrook feddylgarwch pan oedd yn athrawes dosbarth ac addysgodd feddylgarwch a myfyrio i blant o 4-14 oed. Aeth ymlaen i addysgu meddylgarwch i oedolion ac mae wedi parhau i ddatblygu adnoddau. Meddai Juliet:

“ Rwy’n creu Myfyrdodau Personol i gleientiaid sy’n cael trafferth â straen, gorbryder, galar neu iselder. Pan rwyf yn gweithio gyda chleientiaid unigol, rwy’n gwneud gweithgareddau sy’n briodol i’r unigolyn, fel taflenni gwaith, tasgau, (e.e. bwyta un pryd bwyd yn ystyriol), rhannu fy myfyrdodau dan arweiniad etc. Fe ysgrifennais lyfr o Delweddu Dan Arweiniad sy’n seiliedig ar fyd natur ac rwyf wedi defnyddio’r rhain gyda phlant. Yn ogystal fe wnes i greu Tiniau Meddylgarwch sy’n dal 40 cerdyn gyda fy lluniau i ar un ochr a brawddeg Ystyriol ar yr ochr arall. Mae’r rhain yn annog plant i ganolbwyntio ar un peth a siarad am yr hyn sy’n dod i’r meddwl. Maen nhw ar gael yn uniongyrchol o Loggerhead Publishing ac o Amazon.

Trwy ymarferion dan arweiniad, annog cyfathrebu ystyriol ac addysgu technegau meddylgarwch bob dydd, rwy’n ceisio helpu bobl i ddatblygu synnwyr dwysach o hunan-ymwybyddiaeth a rheoleiddio emosiynol. Rwy’n gobeithio bod y trawsnewidiad personol hwn yn ehangu, gan greu dylanwad ehangach sy’n gwella llesiant cyffredinol y gymuned. Rwy’n gobeithio gwneud rhagor o waith yn fy nghymuned leol yma yng Nghymru, er fod fy amser rhydd braidd yn gyfyngedig.”

Yr hyn sydd gan rhai o gleientiaid Juliet i’w ddweud:

“Mae meddylgarwch gyda Juliet wedi rhoi’r adnoddau i mi ddelio â fy ngorbryder cyffredinol, ond hefyd i ddelio â’r pethau sy’n achosi straen mewn bywyd pob dydd. Mae ei gallu syml ond effeithiol i’ch cadw yn y funud hon yn eich atal rhag aros yn y gorffennol a phoeni am y dyfodol; yn hytrach canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig yn y presennol. Mae Juliet wedi rhoi i mi ffordd newydd, bositif o ystyried pethau a ffordd ystyriol o weld y byd o’m cwmpas.”

“Mae Juliet wedi fy helpu yn wirioneddol i reoli fy ngorbryder a fy mhyliau o banig yn ystod y misoedd diwethaf. Ar ôl un sesiwn yn unig roeddwn yn gallu gwneud pethau roeddwn yn flaenorol wedi teimlo’n rhy bryderus i’w gwneud. Alla i ddim ei chymeradwyo ormod…mae ganddi natur gynnes, caredig, gofalgar a sensitif.”

Gallwch ddarganfod rhagor am waith Juliet yma:

Ebost: juliet@mindfulnessconsultant.co.uk

Gwefan:  www.mindfulnessconsultant.co.uk

Facebook: www.facebook.com/joyarises

Instagram: www.instagram.com/mindfulnessconsultant

YouTube:  www.youtube.com/@Mindfulness-Consultant