Mae Dr Jo Soldan yn Seicolegydd Clinigol yng Nghanolfan Canser Maggie yng Nghaerdydd, ac yn athrawes meddylgarwch sydd wedi ei hyfforddi yn rhyngwladol. Yma mae’n cynnig Therapi Gwybyddol Sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch ar gyfer canser, i bobl sy’n byw gyda diagnosis o ganser a’u perthnasau fel ei gilydd.
Mae pobl sy’n mynd i Maggies yng Nghaerdydd yn cael cyfle i ymuno â chwrs wyth wythnos o Therapi Gwybyddol Sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch ar gyfer Canser yn ogystal ag encil diwrnod. Cynigir y cyrsiau hyn bob chwarter. Ar ôl gorffen y cwrs mae yna gefnogaeth barhaus i helpu cynnal eu hymarfer, gan gynnwys sesiynau ymarfer misol ac encilion dyddiol bob chwarter. Mae hyn yn helpu datblygu cymuned gefnogol o bobl sy’n byw yn ystyriol gyda diagnosis o ganser.
Mae pob grŵp yn cael ei werthuso. Mae pob un sydd wedi cyfranogi yn y cwrs Therapi Gwybyddol Sy’n Seiliedig ar Feddylgarwch wedi elwa. Dywedodd 100% o’r cyfranogwyr fod y cwrs meddylgarwch yn fuddiol ac roeddent yn cytuno eu bod yn gallu ymdopi yn well pan fo pethau’n anodd neu’n mynd o chwith. Mae eu hadborth yn dangos buddion meddylgarwch pan yn byw gyda chanser:
“Rwy’n bendant yn fwy hunan-ymwybodol ac yn fwy llonydd, yn ymdrechu llai ac yn derbyn mwy”
“Mae wedi fy ngwneud yn fwy llonydd ac yn hapusach yn byw gyda fy nghanser”
“Cwrs ardderchog. Rwy’n teimlo’n llawer hapusach o ran fy ngallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd lle rwy’n teimlo’n llawn tyndra ac yn methu symud ymlaen yn feddyliol”
“ Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu gymaint am fi fy hun. Mae gen i fwy o reolaeth, yn adweithio llai ac yn deall yn well sut mae fy nheimladau a fy emosiynau’n gweithio”
Fel person proffesiynol ym maes iechyd, mae Jo wedi darganfod bod ei hymarfer meddylgarwch personol hi wedi ei chynnal yn wych yn ei bywyd proffesiynol. Yn y dyfodol mae’n gobeithio datblygu’r gymuned i ehangu a chynnwys staff gofal iechyd y GIG.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: ejo.soldan@maggies.org
Gwefan: Maggies.org
Facebook: Maggie’s Cardiff
LinkedIn: jo soldan