“Darganfyddiad mwyaf y cwrs meddylgarwch hwn oedd nid ei fod yn cynnig dihangfa oddi wrth fy meddwl ond ei fod yn cynnig glasbrint i ddatblygu lloches yn fewnol ac yn fy meddwl fy hun.”
(Ella Rees)
Mae byd mewnol Ella yn teimlo fel petai yn cael ei reoli gan dri grym: cylchoedd ailadroddus, ymwthiol Anhwylder Obsesiynol – Gorfodaethol (OCD), egni aflonydd, ar chwâl Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), a thon o hormonau misol sydd yn gwaethygu’r ddau yn aruthrol. Er ei bod wedi bod yn archwilio i ymarferion sy’n seiliedig ar feddylgarwch ac yn eu haddasu am bron i hanner ei hoes, trwy roi ar waith ddysgeidiaeth cwrs diweddar 8 wythnos o Feddylgarwch ar gyfer Straen a Llesiant mae wedi profi newid ysgubol i ddysgu dod ag ymwybyddiaeth i’w phrofiadau emosiynol o ddydd i ddydd, a’u derbyn.
“Cyn y cwrs hwn, roedd fy mherthynas â’r triawd hwn yn un o ymdoddi; fi oedd fy ngorbryder, fi oedd yn tynnu fy sylw, fi oedd fy anobaith hormonaidd. Mae dysgu bod yn ymwybodol yn ystyriol a derbyn fy mhrofiadau wedi rhoi methodoleg i mi wahanu, a thrwy wneud hyn, greu ffordd o ymdopi â’r straen sy’n diffinio cymaint o fy mhrofiadau.”
Mae llais Ella yn cynrychioli profiad llawer un sydd yn aml yn teimlo bod cyfarwyddyd i eistedd yn llonydd a thalu sylw yn ystyriol tu hwnt i’w gallu. Mae addasu ymarferion i siwtio systemau nerfol gwahanol a hanesion trawma gwahanol yn ddatblygiad pwysig ym maes meddylgarwch a bydd llawer o’r datblygiadau hyn yn dod yn gyfangwbl o’r gwraidd.
“Mae dyneiddio ymagweddion y cwrs wedi golygu eu haddasu ar gyfer fy meddwl niwroamrywiol i. Mae myfyrio traddodiadol ar eich eistedd yn gallu bod yn artaith i rywun ag ADHD sy’n aflonydd. Felly, cerdded yn ystyriol ddaeth yn ymarfer i mi, lle mae’r symudiad yn bodloni angen y corff am symbyliad tra bo’r meddwl yn ymarfer bod yn ymwybodol o’r synhwyrau.”
Yn riant i bedwar o blant, mae galwadau byd allanol Ella hefyd angen eu haddasu yn greadigol. Mae’n ymarfer anadlu yn ystyriol i reoleiddio ei system nerfol tra ei bod yn gorwedd i lawr ac yn setlo ei babi. Mae’n cipio cyfleoedd byr i ganolbwyntio, mewn realiti swnllyd aelwyd gyda phedwar o blant.
“Ambell waith mae’n nawdeg eiliad ar y landing cyn bo rywun fy angen. Weithiau mae’n cofio anadlu tra fy mod yn coginio te i’r plant.”
Mae ailystyried cysyniadau methu yn rhan hanfodol arall o ymagwedd Ella tuag at ymarfer. Nid methiant yw diwrnod drwg o ran meddylgarwch, nac ychwaith yn brawf nad yw’r ymarfer yn gweithio. Profiad arall yn unig yw e. Mae bod yn ymwybodol yn ‘Rwyf wedi fy llorio’n llwyr ac nid wyf yn gallu defnyddio fy adnoddau ar hyn o bryd’, ac mae derbyn yn ‘dyma sut mae pethau y funud hon, fydd hi ddim fel hyn am byth’.
Trwy weithredu’r egwyddorion deuol o dderbyn ac o fod yn ymwybodol i’w phoen emosiynol ac o’i wynebu gyda’r un teimlad o dawelwch ac addfwynder y byddai’n ei roi i gi gwael, mae Ella yn datblygu lloches iddi hi yn fewnol ynghanol y storm. Heb ei chydnabod bellach fel y storm ei hun, hi ei hun yw’r man lle mae ei niwrobioleg a’i ffysioleg yn cydchwarae. Ambell waith mae’r man hynny yn lle llydan, yn dawel ac yn ystyriol. Dro arall, mae’n teimlo’n gyfyng ac yn afreolus. Ond y cam hollbwysig yw gwybod mai hi yw’r man, ac nid y tywydd.
“Y gwahanu hwn yw’r adnodd mwyaf pwerus i reoli straen rwyf wedi dod ar ei draws, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae’n galluogi i mi i fodloni dyddiadau cau proffesiynol gyda llai o orbryder sy’n fy mharlysu, a chymryd rhan mewn perthynasau personol heb gael fy moddi’n llwyr gan leisiau mewnol.”
Yn y dyfodol mae Ella yn bwriadu parhau â’r ymarfer hwn a datblygu ei gwybodaeth o ran derbyn poen emosiynol i ymdopi â straen bywyd. Yn ogystal mae’n bwriadu sefydlu dosbarthiadau myfyrio a llesiant mewn amgylchedd addysgu-yn-y-cartref i blant gydag ADHD/ awtistiaeth/ gorbryder, i roi cymorth iddynt ddeall eu hemosiynau a dod o hyd i fan tawel yn fewnol. Er mai dim ond mympwy yw hyn ar hyn o bryd, mae’n gobeithio’n fawr y gall helpu eraill i reoli eu hemosiynau ac adweithio llai a chael mwy o reolaeth dros eu bywyd bob dydd trwy weithgareddau myfyriol.
Manylion cyswllt:
ellapaigerees@gmail.com