“Mae meddylgarwch, wrth ei addysgu, yn aml yn cael ei gyflwyno i gleientiaid fel arf, yn hytrach na ffordd y gall hyfforddai cwnsela ymgorffori presenoldeb a chefnogi hunan-reoleiddio. Rwyf wedi bod trwy llawer o fy hyfforddiant ac ar leoliadau yn llawn pryder a gorbryder. Roeddwn yn meddwl mai dim ond anadlu’n ddwfn am ychydig i ymlonyddu oedd yr holl feddylgarwch roedd ei angen arnaf cyn sesiynau cyntaf gyda chleient newydd.”
(Alex Legge)
Fel hyfforddai cwnsela, yn ddiweddar aeth Alex ar gwrs meddylgarwch 8-wythnos gan wir feddwl y byddai’n dysgu sgiliau i’w trosglwyddo i’r rhai y byddai’n gweithio â nhw, ond roedd ei phrofiad yn un cwbl wahanol.
“Er gwaethaf blynyddoedd o seicotherapi, cyrsiau hunan-ddatblygu a hyfforddiant mewn Cwnsela Integreiddiol, yn fy isymwybod fe wnes i ddiystyru meddylgarwch fel rhywbeth nad oedd yn angenrheidiol nac yn bwysig.”
Roedd y cwrs yn cyd-ddigwydd â chyfnod o ansefydlogrwydd personol a phroffesiynol, pan roedd straen yn dechrau teimlo’n naturiol i Alex, ac yn lle canolbwyntio ar ehangu ei sgiliau i weithio gyda chleientiaid, darganfyddodd cymaint oedd angen yr ymarferion arni hi ei hun.
Ar y dechrau teimlodd wrthynebiad cryf, hunan-feirniadaeth ac ofn. Fodd bynnag, gydag amser a dyfal barhad, gwelodd nad diben meddylgarwch yw teimlo ‘tawelwch mewnol’ ar unwaith, nac ychwaith synfyfyrio am’ei wneud yn iawn’, ond yn hytrach roedd am wynebu ei phrofiadau mewnol â chwilfrydedd ac ag ystyrioldeb, yn hytrach na barnu a cheryddu.
Mae dylanwad dechrau ymarfer meddylgarwch wedi bod yn drawiadol. Mae wedi bod o gymorth iddi ailystyru ei pherthynas â hi ei hun, â’i chorff, ac â’i phrofiadau bob dydd. Trwy addysgu adnabod ei hemosiynau, ei meddyliau a’i synhwyrau corfforol, mae adweithio parhaus yn lleihau. Mae’n profi teimlad cynyddol o fod yn ddiogel yn ei chorff, sydd yn ei dro yn cynyddu ei chapasiti i fod yn bresennol o ddydd i ddydd, yn hytrach na phendilio rhwng pryderon y gorffennol a rhai dychmygol y dyfodol.
Mewn ffordd eitha annwyl, mae’r newidiadau personol arwyddocaol hyn, wrth gwrs, yn dylanwadu ymhellach ar sut mae hi yn ystyried ei rôl ac sut mae’n ei gyflawni fel hyfforddai cwnsela. Yn hytrach na disgyn i bydew o hunan-amheuaeth a theimlo’n annigonol, neu o gael ei dal mewn cymariaethau, mae meddylgarwch yn ei chynorthwyo hi i dderbyn ei hunan yn llawnach, sydd yn ei dro yn gwella ei hyder a’i chapasiti i fod yn bresennol ac yn effeithiol:
“Rwy’n teimlo fwyfwy fy mod yn gallu bod yn fwy pwyllog, yn hytrach na pherfformio rôl rhywun sydd yn bwyllog, trwy ymgorffori ymarferion syml o feddylgarwch cyn sesiynau, ar ôl sesiynau a rhyngddyn nhw, sydd yn cynorthwyo fy rheoleiddio a fy mhresenoldeb.”
Mae elfennau o feddylgarwch Alex nawr yn treiddio trwy’r ffordd mae hi’n ystyried ei lleoliadau cwnsela. Ymarferion bach syml o sylwi ar ei hanadl wrth yrru yno, troi ei sylw at ei synhwyrau corfforol wrth gerdded tuag at yr adeilad, arafu wrth roi trefn ar yr ystafell, ac yn gyffredinol bod yn ymwybodol o’r awyrgylch mae’n ei greu yn yr ystafell cyn i’r cleient gyrraedd.
“Mae’r paratoi ystyriol hyn yn fy helpu i symud o berfformio rôl o gwnselwr cyfatebol, i fod yn gwirioneddol bresennol fel bod dynol yn yr ystafell, bod yn ymwybodol fod fy mhresenoldeb yn gosod y duedd cyn i’r cleient gyrraedd hyd yn oed, ac yn aml mae ganddo fwy o ddylanwad ar y sesiwn nag ailddarllen unrhyw nodiadau na rhagweld beth ddaw.”
Mae dod â’i hymarfer i mewn i’w gwaith i’w weld yn hadu potensial o newid ynddi hi ei hun a’r rhai mae’n eu cynorthwyo fel ei gilydd. Mae’n sylwi ei bod yn llai hunan-feirniadol a’i bod yn fwy hunan-ystyriol wrth arolygu, a bod sesiynau gyda chleientiaid yn aml yn teimlo’n llai cyfyng ac yn gredadwy. Yn y dyfodol mae’n bwriadu parhau ag integreiddio meddylgarwch wrth i’w hymarfer ddatblygu, nid o reidrwydd fel rhywbeth mae’n ei gyflwyno’n uniongyrchol i gleientiaid fel arf neu dechneg, ond yn hytrach trwy fodelu ffordd o fod sy’n gallu llunio a chefnogi’r berthynas therapyddol.
“Rwy’n gobeithio bod o gymorth i eraill i ddatblygu chwilfrydedd tuag at eu profiadau mewnol, yn ogystal â lleisiau mewnol mwy caredig a mwy ystyriol, mewn byd sy’n gofyn cymaint ohonyn ni i gyd.”
Manylion cyswllt:
alexlcounselling@gmail.com